Fio Celebrates Multi-Year Funding Award from Arts Council of Wales Investment Review 2023
We are elated to announce that we have received the tremendous news of securing a multi-year funding award from the Arts Council of Wales Investment Review 2023. This remarkable achievement signifies a pivotal moment in our journey, as we embark on a transformative path over the initial 3-year term, commencing in April 2024.
The Arts Council of Wales has recognised our unwavering commitment to fostering creativity and inclusivity, and ensuring that people from the Global Majority are embedded and thriving in all aspects of theatre and arts in Wales.
We are deeply grateful to the Arts Council of Wales for their support, and we extend our heartfelt thanks to our Board, dedicated staff, talented freelancers, valued partners, existing funders, and all stakeholders who have been instrumental in our journey thus far. We are exceptionally excited about the next three years, where we will work diligently to realise the Arts Council of Wales' investment principles. We are committed to working collaboratively across the sector, and wish all organisations similar good news and success for the health of the future of arts and culture in Wales. Together, we will continue to make a positive and lasting impact on the arts, ensuring a brighter and more inclusive future for all. Our thoughts are with the organisations who have received difficult and disappointing news today.
To get in touch about our work, please click the button below:
Mae Fio yn Dathlu Dyfarniad Cyllid Aml-Flwyddyn gan Adolygiad Buddsoddi 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn y newyddion aruthrol o sicrhau dyfarniad cyllid aml-flwyddyn gan Adolygiad Buddsoddi 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r cyflawniad rhyfeddol hwn yn arwydd o foment hollbwysig yn ein taith, wrth i ni gychwyn ar lwybr trawsnewidiol dros y tymor 3 blynedd gychwynnol, gan ddechrau ym mis Ebrill 2024.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cydnabod ein hymrwymiad diwyro i feithrin creadigrwydd a chynwysoldeb, a sicrhau bod pobl o’r Mwyafrif Byd-eang wedi’u gwreiddio ac yn ffynnu ym mhob agwedd o theatr a chelfyddydau Cymru.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth, ac estynnwn ein diolch o galon i’n Bwrdd, ein staff ymroddedig, ein gweithwyr llawrydd dawnus, ein partneriaid gwerthfawr, ein cyllidwyr presennol, a’n holl randdeiliaid sydd wedi bod yn allweddol yn ein taith hyd yma. Rydym yn hynod gyffrous am y tair blynedd nesaf, lle byddwn yn gweithio’n ddiwyd i wireddu egwyddorion buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar y cyd ar draws y sector, ac yn dymuno newyddion da a llwyddiant tebyg i bob sefydliad ar gyfer iechyd dyfodol celfyddydau a diwylliant Cymru. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i gael effaith gadarnhaol a pharhaol ar y celfyddydau, gan sicrhau dyfodol mwy disglair a mwy cynhwysol i bawb.