Arise 2024

 

Mae Ceisiadau Arise 2024 Ar Agor!

Mae Fio a Chanolfan Mileniwm Cymru wrth eu bodd yn cyflwyno Arise. Rydyn ni’n chwilio am 8 o bobl  Mwyafrif Byd-eang sy’n edrych i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd creadigol. Mae Arise yn rhaglen blwyddyn o hyd sy’n rhedeg o fis Medi 2024 i fis Medi 2025.

Mae’r cyfle hwn yn un taledig, byddwch yn derbyn £150 y mis i’ch cefnogi i fynychu’r sesiynau.

Beth sy’n digwydd ar y rhaglen?

Bob mis, bydd y grŵp yn cymryd rhan mewn dosbarth meistr arweinwyr diwydiant, a byddwch yn cael sesiwn 1:1 unigol yn canolbwyntio ar eich nodau gyrfa eich hun ac 1:1 gyda mentor diwydiant pwrpasol. Byddwn yn neilltuo mentor i chi yn seiliedig ar eich diddordebau penodol. Cynhelir y dosbarth meistr un noson o’r mis yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a chynhelir y dosbarthiadau 1:1 ar amser sy’n gyfleus i chi ar-lein.

Profiad ymarferol

Yn ystod y flwyddyn, cewch gyfle i weithio ar dri phrosiect, gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, BBC Audio ac S4C. Gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn cael y cyfle i gydweithio â dylunwyr theatr, a dod â chysyniad ar gyfer cynhyrchiad theatre yn fyw mewn dyluniad blwch model. Mae hyn i gyd yn ymwneud â chydweithio ag aelodau eraill o dimau creadigol, datblygu eich rhwydweithiau cyfoedion a mireinio eich gweledigaeth greadigol. Bydd John Norton, Cynhyrchydd Drama Sain y BBC yn rhoi dosbarth meistr, a bydd cyfleoedd i eistedd yn stiwdios y BBC ac arsylwi rhai recordiadau o ddramâu sain, ac yna cefnogir y grŵp i greu a chyfarwyddo eu dramâu sain eu hunain. Bydd S4C yn darparu dosbarth meistr am ddechrau gweithio ym myd teledu, y broses gomisiynu, a bydd yn cynnig cefnogaeth i chi i sicrhau lleoliad gwaith gyda chwmni cynhyrchu yng Nghymru i brofi sut mae teledu yn cael ei wneud.

Gwneud eich gwaith eich hun

Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn cael y cyfle i greu eich darn o waith eich hun yn unol â’ch disgyblaeth greadigol. Bydd hwn yn cael ei ffilmio gyda chwmni cynhyrchu proffesiynol i chi ei ychwanegu at eich portffolio, yn ogystal â’i rannu mewn digwyddiad dathlu cyhoeddus yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i orffen y rhaglen.

Eich cefndir creadigol

Gallwch fod o unrhyw gefndir creadigol, gydag unrhyw ddisgyblaeth greadigol; efallai eich bod yn gyfarwyddwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd, gwneuthurwr ffilmiau, ffotograffydd, hwylusydd, dawnsiwr, coreograffydd, cerddor, artist. Efallai bod gennych chi sgiliau trosglwyddadwy o rywbeth rydych chi’n ei wneud yn barod, a’ch bod yn wirioneddol angerddol am fynd i mewn i’r sector diwylliannol creadigol. Rydym yn chwilio am bobl sydd eisoes â rhywfaint o brofiad ond sy’n edrych i uwchsgilio a mynd â’u gyrfaoedd i’r lefel nesaf.

Enghreifftiau o'n blwyddyn beilot Arise

Dyma rai enghreifftiau o waith blaenorol a grëwyd gan gyfranogwyr Arise 2023:

Mae'r rhaglen yn addo darparu profiad ymarferol yn y maes diwylliannol, yn ogystal â thaith bwrpasol o hunanddatblygiad. Rydym am eich helpu i gyrraedd y lefel nesaf yn eich gyrfa.

Pwy yw arweinwyr y rhaglen?

Sita Thomas

Mae Dr Sita Thomas yn arweinydd diwylliannol a chrëwr Cymreig-Indiaidd sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Swyddog Gweithredol Fio, cwmni theatr sy'n canolbwyntio ar greu gwaith gyda phobl greadigol a chyfranogwyr Mwyafrif Byd-eang Cymru. Mae hi'n Gydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yn Artist Cyswllt yn Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae gan Sita PhD o Brifysgol Warwick a gradd Meistr mewn Cyfarwyddyd Symud o’r Ysgol Frenhinol Ganolog Lleferydd a Drama, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae hi'n ymddiriedolwr Emergency Exit Arts a Young Vic, ac mae'n rhan o'r grwpiau cynghori ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Symudiadau. Mae Sita hefyd yn gyflwynydd ar y rhaglen Milkshake, ar Channel 5!

Ndidi John

Mae Ndidi John yn awdur, sgriptwraig, actor, cerddor, artist llafar ac ymarferydd lles; Cyfuniad o sgiliau sy'n ei galluogi i gymryd agwedd gyfannol tuag at weithredu creadigol. Yn storïwr profiadol, mae ei sgiliau cyfathrebu eithriadol yn atseinio trwy ei straeon therapiwtig sy'n dangos ei dealltwriaeth o fetaffiseg bywyd. Ei hymrwymiad i ddarparu dyfodol gwell i bawb fu'r sbardun ar gyfer GoGo Wellbeing, menter a grëwyd dros flynyddoedd i gynnig dull diwylliannol unigolyddol o newid ystyrlon ar draws sectorau'r celfyddydau, addysg a busnes.

Jain Boon

Mae Jain Boon (hi/hi) yn weithiwr theatr broffesiynol sy’n Ystyriol o Drawma ac wedi ennill gwyobrau am ei gwaith. Gyda dros 35 mlynedd o brofiad o gyd-gynhyrchu theatr sy'n rhoi llwyfan i bobl â phrofiadau trawmatig gyda'r nod o leihau stigma ac arwahanrwydd. Mae hi'n angerddol am ddemocrateiddio iechyd meddwl a lles ac yn credu bod y celfyddydau'n creu gwagle ar gyfer cysylltiad a gwella.

Emma Evans

Emma Evans

Rwyf wedi gweithio ar lefel uwch yn y sector celfyddydau, diwylliannol a chyhoeddus ers dros 15 mlynedd. Fel Cynhyrchydd, rwyf wedi gweithio gydag amrywiaeth o Gwmnïau, o ysgrifennu o'r newydd i'r theatr gorfforol, dawns i gelfyddydau awyr agored.

Ar hyn o bryd rwy'n Bennaeth Profiadau Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sy'n arwain ar ddatblygiad strategol holl waith y ganolfan gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau gan gynnwys datblygu Profiadau Digidol, Cabaret a Gŵyl Llais.

Cyn ymuno â Chanolfan Mileniwm Cymru cefais yrfa portffolio lwyddiannus fel cynhyrchydd ac ymgynghorydd yn arwain a datblygu prosiectau Cenedlaethol fel Hynt a chynllun tocynnau ledled Cymru yn cefnogi cynulleidfaoedd âg anghenion ychwanegol i gael mynediad i theatrau a chanolfannau celfyddydau.

 

Sut i ymgeisio?

Llenwch y ffurflen gais isod erbyn canol dydd 29 Gorffennaf 2024.

Eisiau gwybod mwy?

Byddwn yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf 5.30-6.30pm, lle mae croeso i chi ddod i ofyn unrhyw gwestiynau a dod i wybod mwy am y rhaglen. Bydd gennym gynrychiolwyr o'r sefydliadau partner yno i sgwrsio â chi.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach?